Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2011 (Papur 2 Rhan 1)
Cyllideb ddrafft 2012-13

 

Dyddiad:     22 Medi 2011
Amser:        11.00-12.30
Lleoliad:      Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Claire Clancy, estyniad 8233

Cyllideb ddrafft 2012-13

1.0        Diben a chrynodeb o’r materion

1.1    Cymeradwyo dogfen cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2012-13, y bwriadwn ei gosod ar 29 Medi.  Mae dogfen y gyllideb ddrafft arfaethedig yn amgaeedig (Atodiad A).

2.0     Argymhellion

2.1    Bod y Comisiwn yn cytuno ar ei Gyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13, a chyllidebau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol, fel y nodir yn Atodiad A.

3.0     Trafodaeth

3.1    Cytunodd y Comisiwn ar strategaeth ei gyllideb ar gyfer 2012-13 a’r Pedwerydd Cynulliad pan gyfarfu ar 29 Mehefin a 14 Gorffennaf. Cytunwyd:

·         y dylai’r gyllideb gynnwys digon o adnoddau i ganiatáu i’r Comisiwn ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad fel deddfwrfa sydd â phwerau deddfu llawn yn dilyn y refferedwm;

·         bod angen safon uchel o wasanaethau cymorth ar y Cynulliad, fel sefydliad sy’n tyfu, gydag adnoddau priodol ar gyfer y gwasanaethau hynny, er mwyn galluogi’r Aelodau i wneud eu gwaith; ac

·         y byddai’n hanfodol parhau i sicrhau effeithlonrwydd a gwerth am arian.

3.2    Mae dogfen y gyllideb ddrafft yn seiliedig ar y cyfarwyddyd a bennodd y Comisiwn. Penderfynwyd ar y cyllid ar gyfer y blaenoriaethau hyn drwy gyfuniad o arbedion, ailddosbarthu’r adnoddau presennol a thwf yn y gyllideb a gaiff ei gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Credwn y bydd y cyfuniad hwn yn helpu i ddangos defnydd priodol o arian cyhoeddus, mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol parhaus ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd hefyd yn ein galluogi i wneud y buddsoddiadau newydd angenrheidiol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, ac a fydd yn cadarnhau’r Cynulliad fel deddfwrfa a senedd gref yn ddigamsyniol. Canlyniad hyn yw cyllideb o £47.7 miliwn, sef cynnydd o 6.6 y cant o gymharu â 2011-12 (gyda 5.1 y cant ei angen i dalu costau ychwanegol anochel). O fewn cyfanswm y gyllideb, bydd £13.5 miliwn yn mynd tuag at dalu cyflogau a lwfansau'r Aelodau a’u staff a bydd y £34.2 miliwn sy’n weddill yn mynd tuag at gostau gwasanaethau a gaiff eu darparu gan Gomisiwn y Cynulliad i gefnogi gwaith yr Aelodau.

3.3    Mae arddull dogfen y gyllideb ddrafft yn wahanol i’r rhai a baratowyd yn ystod y Trydydd Cynulliad. Y nod y tro hwn yw ceisio cyfleu gweledigaeth y Comisiwn ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad a nodi’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth honno yn gyffredinol, ond yn llai manwl nag yn y gorffennol.

3.4    Yn unol â’r Rheolau Sefydlog, rhaid gosod y Gyllideb Ddrafft erbyn 1 Hydref (Rheol Sefydlog Rhif 21.13). Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu arni ar 6 Hydref.